diweddarwyd y dudalen hon 2/07/08Croeso i'n gwefan, ynddi cewch wybodaeth am ein hachos ac fe'ch gwahoddwn i ymuno â ni yn ein gwasanaethau.
Capel yn perthyn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru yw Y Cysegr yn ffurfio Gofalaeth Glannau'r Saint gyda'i chwaer Eglwys, Capel y Rhos, Llanrug.
Cynhelir oedfa bob bore Sul am 10 o'r gloch gyda Ysgol Sul y plant yn cydredeg. Daw'r plant a'r athrawon i rannau dechreuol yr oedfa gan adael hefo'i hathrawon ar ôl y rhannau dechreuol.
Ar ddiwedd 2007 nifer yr aelodau oedd 166 gyda 72 o blant bedyddiedig. Cyfanswm plant wedi cofrestru yn yr Ysgol Sul yw 47 gyda 7 athro.
Gweinyddir Swper yr Arglwydd bob yn ail fis ynghyd a'r Pasg a bore Dydd Nadolig. Ceir gwasanaethau arbennig gan blant yr Ysgol Sul i ddathlu Dydd Gwyl Dewi, Y Diolchgarwch a'r Dolig.